top of page

amdanaf i

Photo by Bethany McLeish

Rwyf yn wreiddiol o ardal Gaernarfon yng Ngogledd Cymru a bum yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru am chwe mlynedd. Tra’n y chweched dosbarth ‘roeddwn  yn teithio i Fanceinion bob dydd Sadwrn i fynychu’r ‘Junior RNCM’ lle cefais wersi  ffidil gan Steve Wilkie. Symudais i Fanceinion i astudio cerddoriaeth yn 2015 ym Mhrifysgol Manceinion a chefais fy nysgu gan Jonathan Martindale. Yn fuan ar ol cychwyn mi wnes i ffurfio’r ‘Adlib Quartet’ ac ‘roeddwn yn perfformio gyda nhw’n gyson mewn digwyddiadau a chyngherddau hyd at Mehefin 2019.  ‘Roedd cydweithio ddwywaith gyda’r grwp jas ‘Tom Barber Trio’ o Fanceinion yn uchafbwynt, a hefyd perfformio’r ‘Four Quartets’ gan Thomas Ades  yn Sefydliad Rhyngwladol Anthony Burgess yn 2019. Yn ogystal ag ymaelodi a chymdeithas gerddorol y Brifysgol (MUMS) a bod yn flaenor yn y gerddorfa nifer o weithiau, ‘roeddwn yn aelod o’r ensemble ‘No Dice Collective’ o Fanceinion a fyddai’n perfformio ddwywaith y flwyddyn i gyflwyno gweithiau newydd, yn aml mewn cydweithrediad a ffurfiau celf eraill.

Yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol mi gefais gyfle i wneud sesiwn recordio yn Stiwdio Maida Vale ar gynllun ‘Horizons’ BBC Cymru Wales, yn recordio sesiynnau gyda cherddorion  roc, pop a gwerin poblogaidd ac addawol. Ers i mi raddio o Brifysgol Manceinon gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cerddoriaeth, ‘rwyf wedi parhau i ganfod profiadau perfformio a chyfleoedd ar liwt fy hun. Ar hyn o bryd ‘rwyf yn aelod o’r ‘Piccadilly Symphony Orchestra’ sy’n cydweithio’n aml gyda phrosiectau cymunedol a pherfformiadau mewn digwyddiadau a chyngherddau yn ardal Manceinion. Yn ogystal perfformiais gyda   Symffonia Gogledd Orllewin Cymru mewn premier gan Rebecca Dale o ‘Materna Requiem’ yng Ngwyl Rhyngwladol gogledd Cymru yn 2018. Mi wnes i deithio hefyd gyda ‘Opra Cymru’ a’i cynhyrchiad o ‘Fidelio’ gan Beethoven yn Ebrill a Mai 2019 a chymeryd rhan yn premier  Jonny Greenwood o ‘Horror vacui’ gyda’r BBC Proms ym Medi 2019. Mae gen i brofiad o ddirprwyo gyda nifer o gerddorfeydd mewn cyngherddau unigol. 

Rwyf ar ganol cwrs Meistr ar y ffidil dan arweiniad Leland Chen yn y Royal Northern College of Music.

bottom of page